Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Cymru v Awstralia - Matthew Rees
Matthew Rees, Cymru v Awstralia - Matthew Rees
Huw Evans
Smiler - Rheswm da i wenu
4 February 2007, 5:00 pm
By WRU
Cais rhyngwladol cynta a sawl gwobr seren y gem i’r Sgarlets yn yr hydref. Tymor rhyngwladol a rownd wyth ola Cwpan Heineken i ddod. Mae gan Matthew “Smiler” Rees ddigon o reswm dros wenu.
Mae’n edrych dipyn ifancach na’i chew blynedd ar hugain, mae’n cael ei adnabod gan bawb o fewn y gem wrth ei ffugenw – “Smiler”, ond peidiwch cael eich twyllo am eiliad mae Matthew Rees wedi’i naddu o graig Cwm Rhondda.

Yn enedigol o Donyrefail y peth naturiol i Matthew oedd teithio lawr y cwm i ymuno gyda thim ieuenctid Pontypridd. Mewn un tymor gyda Zebras Treorci daeth Matthew dan ddylanwad Clive a Chris Jones,ond yn Heol Sardis y daeth e o hyd i’r dylanwad mawr – Mefin Davies, sydd yn eironig newydd ennill ei le nol yng ngharfan Cymru.

“Ydy, mae’n rhyfedd ond yw e? Fe edrychodd Mef ar fy ol i ar ddechrau fy ngyrfa a mae e wedi bod yn dda iawn i fi ar hyd y blynyddoedd. Mae’n dda gweld e nol yng ngharfan Cymru mae’n ei haeddu.

“Roedden nhw’n ddyddiau da ym Mhontypridd ar ol i Lyn Howells gyrraedd a throi pethau rownd. Fe chwaraeon ni gemau gwych yn enwedig yn nhlws y Parker Pen fel y rhai yn erbyn y Saracens, Gwyddelod Llundain a’r ffeinal yn erbyn Sale.

“Roedd y garfan yn dechre adeiladu ar gyfer y tymor wedyn ond fe newidiodd popeth gyda dyfodiad y rhanbarthau.”

Ac yn eironig tymor yn ddiweddarach roedd Matthew bron cael ei hun yn yr un sefyllfa a Mefin Davies aeth i chware’I rygbi yng Nghaerloyw.

“Roedd chwalfa’r Rhyfelwyr Celtaidd yn gyfnod brawychus. Fe ddangosodd sawl clwb yn Lloegr ddiddoreb yno’i ond doeddwn I ddim yn teimlo mai symud dros y bont i chwarae oedd y cam cywir i ‘ngyrfa i ar y pryd. Y Sgarlets oedd yr unig rhanbarth Cymreig i ddangos diddordeb a rwy’n ddiolchgar iawn am hynny. Fe agorodd e’r drws rhyngwladol i fi.”

Fe death y cyfle hwnnw yn Hartford, Connecticut ym Mehefin 2005 pan enillodd Matthew ei gap cynta yn erbyn yr Unol Daleithiau.

“Ro’n i’n chwarae’n dda ar y pryd ac gyda thaith y llewod yn Seland Newydd roedd Mike Ruddock wedi dewis carfan ifanc i deithio America a Chanada. Roedd e’n anrhydedd fawr a gwireddu breuddwyd – rhywbeth fydda i’n trysori am weddill fy mywyd.”

Ond wedyn daeth cyfnod rhwystredig – anaf i’w benglyn gyda’r Sgarlets yn Slofenia yn golygu bod Matthew wedi gorfod aros blwyddyn gron i ychwanegu ail gap. Ond gyda hyfforddwr newydd death cyfle newydd ar y daith i Ariannin llynedd.

“Fe ddywedodd Gareth Jenkins wrtha’i ei fod yn rhoi cyfle i bawb ar y daith, felly fi oedd biau’r prawf cynta a doedd wahaniaeth sut oedd pethau’n mynd byddwn i ddim yn rhan o’r ail brawf. Ron i’n meddwl ‘mod i wedi gwneud yn dda iawn – yn ddigon da i haeddu cyfle arall.”

A dyna’n wir gas e yn yr hydref – yn dechrau’r gemau yn erbyn Awstralia a Chanada a dod mlaen fel eilydd yn erbyn Seland Newydd. Ac yn goron ar y cyfan gorffen symudiad gwych i groesi yn erbyn Canada.

“Am le i sgori fy nghais cynta i Gymru! Dwi ddim yn cael gymaint a hynny o geisiau felly roedd e’n wirioneddol arbennig – rhwybeth bydda i’n cofio am byth.”

Ond dyw Matthew ddim yn pwyso ar ei rhwyfau. Mae’n cydnabod bod na eithaf frwydr am grys y bachwr.

“Mae na bedwar neu bump all hawlio’r crys ar y funud. Mae Rhys Thomas yn chwarae’n dda i’r Gleision, Richard Hibbard a Huw Bennett yn gwella ar ol anafiadau ac mae gan Mefin bwynt i’w brofi. Mae lan i bawb geisio gwneud ei farc, ond mae’r gystadleuaeth yn beth iach i ni ac i Gymru.”

Yn chwe troedfedd a dwy modfedd ac un ston ar bymtheg mae Mattthew Rees yn fachwr mawr a mae’n cytuno mai ei brif rhinweddau yw’r elfen gorfforol i’w gem a’u allu i sgrymio. Ond mae’n cydnabod bod y rygbi disglair mae’r Sgarlets wedi chwarae eleni wedi helpu dod ag e i amlygrwydd, gan gynnwys ennill gwobr seren y gem ar fwy nag un achlysur.

“Heblaw am gyfnod y nadolig mae’r Sgarlets wedi bod ar dan leni. Chwech mas o chwech yn yr Heineken – byddai neb wedi proffwydo hynny o edrych ar y grwp yn y lle cyntaf ond ni wedi chwarae rygbi arbennig. Mae Phil Davies wedi cyrraedd a gwneud chydig newidiadau ond ni’n dal i chwarae yr un gem sylfaenol ag oedden ni dan Gareth a Nigel – dull y Sgarlets ac mae e wedi helpu fy ngem i’n aruthrol.”

Ond mae Matthew yn sylweddoli na ddaw unrhyw lwyddiant yn y dyfodol heb lot o waith caled nawr.

“Rwy wastad yn canolbwyntio ar y clwb neu’r rhanbarth ac mae beth bynnag arall ddaw yn fonws. Mae Cwpan y Byd bedwar neu bump mis bant ac yng nghefn y meddwl, cyn hynny mae pencampwriaeth y chwe gwlad a gem yn rownd wyth ola Cwpan Heineken.

“Bydd cael pencampwyr Ewrop, Munster lawr ar Barc y Strade dan ei sang yn anferth. Rwy’n edrych mlaen gymaint.”

Oes mae gan Smiler ddigon o reswm i wenu ar y funud.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot