| Dewch, chi wybodusion y gem. Beth sy’n cysylltu’r chwarewyr canlynol? Rhys Williams a Jamie Robinson y Gleision, Ryan Powell, eu cyn fewnwr, a Ceri Sweeney, Adam Jones a Michael Owen y Dreigie. Odyn, maen nhw i gyd wedi chware dros Gymru, ond mae yna gwlwm tynnach fyth – roedden nhw i gyd yn rhan o dim dan 19 oed Cymru gyrhaeddodd rownd derfynol Cwpan y Byd yma yng Nghymru ym 1999.
Eleni, mae Cwpan y Byd y darpar ser yn dychwe lyd yma ym Mis Mai, chwaraewyr o dan ugain oed y tro hwn, ac mae Rhys Williams yn gobeithio y gall y to ifanc presennol fwynhau cymaint, ac elwa cymaint o’r profiad ag y gwnaethon nhw wyth tymor yn ol.
“Roedd e’n amser sbesial iawn,” dywedodd Rhys. "Y tro cynta i ni fel criw gael unrhyw sylw mewn gwirionedd, a derbyn clod am ein perfformiad. Roedd gweld y diddordeb a’r gefnogaeth yn tyfu wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen yn rhoi gwefr arbennig, ac fe synnodd e lawer o bobl rwy’n siwr.
"Erbyn y rownd gyn derfynol yn erbyn De Affrica ar Gae’r Bragdy ym Mhen-y-Bont roedd deng mil o bobl wedi tyrru i’n gwylio, a’r trefnwyr yn amlwg heb baratoi am hynny. Dim ond pum stiward oedd ar ddyletswydd, a bu’n rhaid chwilio am lawer rhagor ar frys i gadw trefn!
Erbyn y rownd derfynol ar Barc y Strade yn erbyn Seland Newydd, roedden nhw’n fwy parod, a diolch am hynny, gan fod y lle dan ei sang, a’r awyrgylch yn rhyfeddol. Er taw colli fu’n hanes ni, roedd y profiad yn fythgofiadwy. Er fy mod i wedi ennill 44 o gapie dros Gymru, gan gynnwys ennill y Gamp Lawn dri thymor yn ôl, heb os y diwrnod hwnnw oedd un o uchafbwyntie mawr fy ngyrfa i.
Rwy’n gwybod taw dan 19 oed oedd hi, ond fe alla i drysori am byth y ffaith fy mod i wedi chware yn rownd derfynol Cwpan y Byd – ac yn erbyn tim gore ’r byd, tim oedd yn cynnwys rhai ddatblygodd wedyn i fod yn rhai o ser amlyca ’r Cryse Duon – Ritchie McCaw, Jerry Collins, Ali Williams ac Aaron Mauger.”
“Ar ôl blasu hynny,” medde Rhys. "Roedden ni i gyd yn ysu am brofi mwy, ac wedi magu hunan hyder.”
Ar ôl diwedd y gystadleuaeth, fe’i dewiswyd e a Jamie Robinson i chware rhyw hanner dwsin o gemau dros Gaerdydd cyn diwedd y tymor, ac yn syfrdanol, flwyddyn yn ddiweddarach, fe oedd cefnwr tim cynta Cymru yn erbyn Iwerddon yn Nulyn, ac fe gafodd e gem gofiadwy i lawnsio’i yrfa ryngwladol.
Dyna pham y mae e’n dymuno cymaint gweld y Cymry ifanc yr Haf yma yn achub ar y cyfle i ddangos eu donie ar lwyfan y byd. Ac mae Rhys o’r farn ei bod hi’n haws gwneud hy n ny ar yr oed ran yma nag yw hi yn nes ymlaen mewn gyrfa.
“Heb os, mae mwy o gyfle i ddefnyddio’r sgilie greddfol pan y’ch chi’n ifanc. Wrth symud mlaen at rygbi rhanbarthol a rygbi rhyngwladol, mae llawer mwy o bwyslais yn cael ei roi ar
amddiffyn yn un peth, a chymaint mwy o ddadansoddi ar fideo fel ei bod hi’n mynd yn fwy ac yn fwy anodd i greu a mentro.
"Hefyd, dyw’r corff ddim wedi datblygu i’r un gradde, ac felly dyw maint a phwyse ddim yn cyfri cymaint. Rwy’n cofio er enghraifft ym 1999 fod gan Loegr dim enfawr yn ein herbyn ni yn Abert awe, ond fe redon ni o bobman, defnyddio’n sgilie, a’u tynnu nhw o gwmpas y cae, gan ennill yn hollol gyffyrddus yn y diwedd o ryw 49 o bwyntie yn erbyn 10.”
Gwerth nodi i Gymru guro Lloeger, Ariannin a De Affrica ar eu ffordd at y ffeinal y flwyddyn honno – tair o’r pedair gwlad gyrhaeddodd rownd gynderfynol Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd. Does dim eisie atgoffa neb o beth ddigwyddodd i Gymru yn y gystadleuaeth honno! Pam felly nad yw’r llwyddiant ar yr oedrannau is yn cael ei drosglwyddo at y llwyfan mawr? Bu’n gwestiwn cyson yma yng Nghymru dros y blynyddoedd. Falle bod rhywfaint o’r ateb yn sylwadau Rhys Williams.
Beth felly am y ffaith fod yna Gwpan arall yn dychwelyd yma yn hwyrach eleni?
“Mae’n beth gwych i Gymru,” oedd y sylw. “Un waith eto, bydd llygaid y byd arnon ni am ychydig wythnose, a bydd yn gyfle arbennig hefyd i’r cefnogwyr i fwynhau rygbi mwy agored falle na’r arfer, ac i gael cip cynnar ar rai o ser y dyfodol yn y gwahanol wledydd.”
Bydd y rheini i gyd yn naturiol yn breuddwydio am gael camu mlaen at y lefel ucha un, fel y gwnaeth criw dethol 1999. Bydd yna gyfle felly i bawb geisio bod yn broffwyd a dyfalu pwy o’r ser ifanc hyn allai hawlio’u lle ym mhrif dimoedd eu gwledydd erbyn Cwpan y Byd Seland Newydd yn 2011.
Mae rhai o garfan Cymru eisioes wedi dangos eu haddewid drwy gynrychioli eu timoedd rhanbarthol, ac yn ddiddorol, o ystyried sylwadau Rhys am y cyfle gwell sydd ar yr oedran hwn i ddangos y sgilie, ymhlith yr olwyr y mae’r rhan fwyaf o’r enwe cyfarwydd. Daniel Evans, cefnwr y Sgarlets, yr asgellwr Leigh Halfpenny o’r Gleision; canolwyr cyffrous – Gareth Owen y Gweilch a Jonathan Davies y Sgarlets, a’r haneri Daniel Biggar a Gareth Williams o’r Gweilch i enwi ond rhai.
Ym mis Mai, fe ddaw eu cyfle mawr, a chyngor y gwr wnaeth elwa cymaint o 1999 yw iddynt fynd mas yn fwy na dim i fwynhau’r holl brofiad a dangos eu donie naturiol i’r byd. Mae’n gyfle unigryw i greu atgofion fydd yn aros gyda nhw am amser hir i ddod. A chi’n gwybod beth? Ma gwr ifanc o’r enw Rhys Williams ymhlith yr olwyr yng ngharfan bresennol Cymru dan 20 oed. Sgwn i fyddwn ni’n cloriannu ei atgofion e o Gwpan y Byd 2008 ymhen bly nyddoedd i ddod!
|