| - This article appears in the current edition of S4C’s viewers’ magazine, Sgrin -
Mae’r hyfforddwr 44 oed yn hanu o Seland Newydd, yn briod â Trudy a chanddo ddau o blant, Gabby, 14 a Bryn, 12. Mae bellach yn byw ym Mae Caerdydd. Fe ges i’n magu yn Hamilton, prifddinas y Western Province ar Ynys y Gogledd. Mae’n ddinas braf a chanddi boblogaeth o 120,000. Mae’n ddinas go fawr yn Seland Newydd ond o’i chymharu â dinasoedd Prydain, mae’n fach mewn gwirionedd. Mae pobl Hamilton yn meddwl eu bod mewn tagfa draffig pan mae yna 15 car mewn ciw wrth y goleuadau. Ond dy’n ni ddim yn sylweddoli beth yw tagfeydd traffig nes inni fentro ar yr M4 neu’r M25!
Rwy’n cofio ni’n cael teledu a gwylio’r dyn cyntaf yn cerdded ar y lleuad ond, fel plentyn, doeddwn i ddim wir yn ymwybodol o’r hyn a oedd yn digwydd yn y byd tu allan i Hamilton. Fe ddechreuais i chwarae rygbi pan oeddwn yn bump oed—doedd neb wedi clywed am soccer ac roedd y plant i gyd yn breuddwydio am fod yn nhîm yr All Blacks rhyw ddydd. Yn nyddiau amatur y gêm, un o’r manteision mwyaf i’r chwaraewyr oedd cael y cyfle i deithio i wahanol wledydd. Mae’r gêm yn sicr yn gallu ehangu gorwelion. Dwi wedi chwarae rygbi yn Awstralia, yr Unol Daleithiau, Hawaii, yr Ariannin, Rwmania, Gwlad Pwyl a ledled gwledydd Prydain ac Iwerddon. Dwi wedi bod ar wyliau mewn nifer o wledydd Ewrop hefyd, gan gynnwys Sbaen, yr Eidal, Ffrainc, gwlad Groeg a Thwrci.
Mae gan bob Kiwi bron rhywfaint o reddf y teithiwr ynddo fe neu hi a dwi ddim yn eithriad. Ar y llaw arall, rwy’n gallu ymgartrefu’n weddol rwydd mewn gwahanol leoedd hefyd. Dwi ddim yn un sy’n teimlo ei fod yn gorfod symud trwy’r amser, ffactorau allanol sydd wedi peri imi symud bob tro. Rydym ni fel teulu yn arbennig o hoff o Dwrci achos y bobl a’r tywydd ac rydym wedi dychwelyd i Kalkan ar arfordir Lycian yn y de orllewin nifer o weithiau. Mae nifer o leoedd eraill wedi creu argraff arna i hefyd. Mae dinas Vancouver yng Nghanada yn braf iawn, gan fod pob dim wrth law. Mae’r llyn dim ond hanner awr o ganol y ddinas ac mae’r mynyddoedd yno’n drawiadol, os ydych yn mwynhau sgïo a golygfeydd gwych.
Rwy’n hoff iawn o Ffrainc - mae’n llawn hanes a diwylliant - ac mae’n wlad sy’n cael ei rhedeg yn effeithiol. Mae’r Ffrancod yn bobl ag annibyniaeth meddwl-maen nhw’n gwybod beth maen nhw moyn. Mae Aspen yn Colarado UDA yn lle gwych ac rwy’n hoff iawn o Queenstown yn Seland Newydd hefyd. Ond os oes rhaid dewis un lle, yna Traeth Waihi ar ben gorllewinol y Bay of Plenty ar Ynys y Gogledd yw hwnnw. Rwyf wrth fy modd yn mynd yno yn yr haf gyda’r teulu a mynd â’r plant allan i’r môr ar gwch fy nhad-yng-nghyfraith. Ar nosweithiau Gwener, rwy’n licio mynd lawr i glwb yr RSA (Retiring Serviceman’s Association) i gymdeithasu.
Ar foreau Sadwrn, rwy’n picio lawr i’r siop fetio i gael flutter ar y rasys. Mae yna le tebyg i Draeth Waihi ar arfordir gorllewinol Hamilton rhwng Whangamata Mount a Manunganui. Ond Traeth Waihi yw’r encilfa ysbrydol i fi a’r teulu. Dwi ddim yn un sydd byth a hefyd yn hiraethu am gael bod gartref. Ond pan nad oes gennyf ddim byd arall i’w wneud, dyma’r un lle rwy’n hoffi bod. Mae gen i atgofion melys iawn am dreulio oriau bwy’i gilydd yno ac rwy’n siwr y byddwn yn treulio oriau lawer eto yno.
|