Join the WRU Ezine Mailing List Name E-mail
Rob Howley 1999
Rob Howley 1999
Howley - Ffrind i'r Ffrancod?
15 March 2008, 5:00 pm
By Eleri SiÔn
Ar Ôl ail-gydio'r berthynas â'i gyfeillion â'r Wasps, parhau ei berthynas "melys-chwerw" â'r Ffrancod fydd Rob Howley heddiw.
Mae buzz o gwmpas Cymru ac mae blas llwyddiant yn un melys iawn. Eironig felly taw haid o bicynnau sy’yng ngofal cwch gwenyn Undeb Rygbi Cymru. Warren yw’r wenynen sy’n frenin ar y nyth; Shaun yw’r swyddog sy’n pigo heb frathu; Ac yna mae Rob – y rhedwr diwyd sy’n gyfrifol am chware ymosodol cyffrous Cymru eleni. Mae’n hysbys i bawb bod y wenynen yma ’di bod yn wenwyn i wrthywnebwyr yn ei ddydd – yn enwedig Ffrainc.

Bron yn union ddeuddeg mlynedd yn ôl i heddi, Mawrth 16eg 1996, fe ddechreuodd y berthynas bigog, gariadus â’r Les Bleus. Yn ei dymor cynta ym mhencampwriaeth y 5 gwlad fel prif fewnwr Cymru, daeth y Ffrancod i Barc yr Arfau a Howley wnaeth hawlio’r fuddugoliaeth a sgorio’r cais tyngedfennol. “Ypeth wi’n cofio am y cais,” meddai, “oedd Gwyn Jones yn rhoi Hi-5 i mi ar ôl i mi dirio’r bêl. Wnaethon ni osgoi’r llwy bren a gymaint oedd y ryddhad, wi’n cofio Jonathan Humphreys yn cusanu porfa Parc yr Arfau.”

Y flwyddyn ganlynol, cais arall i Howley yn Parc des Princes ond y tro ’ma y ceiliog wnaeth glochdar. “Ro’n i’n siarad â Jenks (Neil Jenkins ei bartner yn safle’r maswr rhwng 1996 a 2001) y dydd o’r blaen am y gêm hon, ac ro’n i’n anffodus iawn i gollio 27 i 22. Tacteg y Ffrancod oedd cicie uchel y diwrnod hwnnw a bownsiodd un o dan y pyst ac arwain at gais. Dwi ddim yn gwbod pam, ond pan mae Cymru a Ffrainc yn cwrdd mae ’na ddealltwriaeth rhyngddon ni bod lot o bwyntie’n mynd i gael eu sgorio.”

Roedd hynny’n wir am Wembley yn Ebrill 1998 ond Ffrainc sgoriodd yr holl bwyntie. Dyma oedd gêm ola Cymru ym Mhencampwriaeth y 5 Gwlad ac fe gollon nhw o record o sgôr – 51-0 – ac yntau yn gapten dros ei wlad. “Isafbwynt fy ngyrfa ryngwladol! Thomas Castaignede ym mhobman a ’na’i gyd wnaeth Cymru oedd cwrso cysgodion.”

Ond daeth yr awr fawr yn Stade de France a daeth gwell stâd ar Gymru dan Graham Henry. “Ro’n ni ’di colli yn erbyn yr Alban ac Iwerddon, ac roedd rhai ’di awgrymu baswn i’n colli’r gapteniaeth ond fe ddywedodd Graham wrthon ni gyd y dydd hwnnw – BYDDWCH YN FEIDDGAR.” Dyna wnaethon nhw ac ennill am y tro cynta ym Mharis ers 1975. Yn dilyn hyn, arweiniodd y tim rhyngwladol I ddeg buddugoliaeth yn olynol gan gynnwys dwy fuddugoliaeth hanesyddol yn Ariannin a suddo’r Springboks am y tro cynta yn hanes rygbi Cymru.

Daeth y cyfle i ddychwelyd i Baris yn 2001 i ail greu campau’r ddwy flynedd gynt a chais unigol Howley – 80 llath hyd y cae – wnaeth brofi’n all weddol. “Wi’n cofio’r heip cyn y gêm hon,” meddai. “Roedd Graham Henry wedi cael ei enwi’n hyfforddwr y Llewod ac roedd pawb am greu argraff. Ro’n ni ar ei hôl hi o 16 i 9 ac fe brofodd y cais yn gatalydd gyda Jenks yn athrylith – yn sgorio 28 pwynt yn y broses. Roedd y cyfnod hwnnw yn Ffrainc yn eitha spesial.”

Fe wnaeth perthynasmelys – chwerw Howley gyda Ffrainc barhau y tu hwnt i’r llwyfan rhyngwladol – a’r cais pwysica sgoriodd e erioed ar lefel glwb oedd yn ystod ei gyfnod gyda Gatland ac Edwards ’da’r Wasps. Ei gais e ym munud ola Rownd Derfynol Cwpan Heineken yn 2004 wnaeth sicrhau bod Picwns Llundain yn codi’r Cwpan am y tro cynta yn eu hanes a’r unig beth gall y mewnwr ddweud wrth wenu yw – “Lle iawn, adeg iawn!”

Lle iawn, adeg iawn sydd i’w gyfri am ei sefyllfa bresennol. “Mae di profi taw’r penderfyniad gore nes I erioed oedd ymuno â’r Wasps!” Dyw’r berthyn as rhwng y tri heb newid. “Nawr fel hyfforddwyr yr olwyr, fel o’r blaen fel chwaraewr,” medd Rob, “maen nhw dal i’m herio a ’nghwestiynnu ac mae’n sefyll fa iachus dros ben.”

YFfrancwyr yw’r gwrthywnebwyr eto heddi ac mae’r amser ’didod unwaith yn rhagor i Rob boenydio’r Les Bleus. “Cyn y gystadleuaeth,” meddai, “mi fyddwn i’di bodloni gorffen yn bedwe rydd, bod yn hapus ’da thrydydd, ond mae’n rhaid cymeradwyo’r chwarew y r am y ffordd maen nhw ’di ymateb mor gloi i feddylfryd y tim hyfforddi. Mae na ddisgwyliad mawr heddi gallwn ni ennill y Bencampwriaeth.”

Fa lle bod ei berthynas sisoaidd fel chwaraewr yn erbyn y Ffrancod wedi dod i ben, ond megis dechrau mae pethe yn eu herbyn fel hyfforddwr. Mi fyddai’n fêl ar fysedd y tri phicwn pe bai nhw’n rhan o’r tim hyfforddi cynta ers 1996 i guro Ffrainc gartre’n y Bencampwriaeth, er roedd rhaid atgoffa fe o’r ffaith yma. “Wel, do’n i ddim yn gwbod hynny – chi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.”

Daeth yr ugain mlynedd o boen i ben yn Twickenham eleni, a phe bai deuddeg mlynedd o rwystredigaeth o chwarae gartre’n erbyn y Ffrancwyr yn diflannu hefyd heddi – yn ddi-os bydde Stadiwm y Mileniwm yn troi’n “bot mêl” gyda’r Buzz yn parhau o gwmpas Cymru.

Welsh Rugby Union Limited: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3419514 - Millennium Stadium plc: A Company Registered in England & Wales under the Number: 3176906

International, International Age Grade and Regional Statistics provided by and Copyright SFMS Ltd - Welsh Club and Women's Rugby Results provided by and Copyright Welsh Rugby Union

delivered by Sotic powered by RedDot